Installieren Sie die genialokal App auf Ihrem Startbildschirm für einen schnellen Zugriff und eine komfortable Nutzung.
Tippen Sie einfach auf Teilen:
Und dann auf "Zum Home-Bildschirm [+]".
Bei genialokal.de kaufen Sie online bei Ihrer lokalen, inhabergeführten Buchhandlung!
Nofel tair rhan am deulu tlawd o naw o blant a fagwyd ar fferm Ffynnonloyw yn ne Ceredigon yw hon o'r 1880au hyd ganol y 1920au; y fam yn eilun yr aelwyd a'r tad yn wynebu heriau difrifol wrth geisio talu am addysg (Seisnig) i'w plant.Trwy gyfrwng portreadau o lawenydd a galar, malais a chenfigen a llawer o ddigwyddiadau cythryblus rydym yn dod i adnabod cymeriadau a chymdogion lliwgar, drwg a da, sy'n gwneud y stori mor ddifyr i'w darllen.
Moelona (Elizabeth Mary Jones, Owen gynt 1878-1953)Ganed Moelona yn Rhydlewis, Ceredigion, yr ieuengaf o 13 o blant. Difethwyd ei gobeithion am addysg prifysgol pan fu farw ei mam a bu raid iddi hi aros gartref i ofalu am ei thad, ond yn ddiweddarach daeth yn athrawes, yn awdur adnabyddus ac yn ffeminydd brwd.Ym 1917 priododd J. Tywi Jones, gweinidog gyda'r Bedyddwyr yng Nghwmtawe. Symudasant i Gei Newydd ble bu farw ym 1955. Mae y rhan fwyaf o ddarllenwyr cyffredin yn cofio amdani fel awdur y nofel boblogaidd, Teulu Bach Nantoer, stori i blant.